Stradey Sospans Girls Rugby Hub was founded in 2016 as part of the Welsh Rugby Union’s initiative to grow the girls’ game across Wales. From our first training sessions with just over twenty girls, we’ve grown into a thriving hub, welcoming players of all ages and abilities.
​
From September 1st 2025, we are proud to call Trimsaran RFC our home, where we continue to build a positive and supportive rugby community.
​
Our Story
​
In April 2016, the Welsh Rugby Union launched an initiative to encourage girls to play rugby, have fun, learn new skills, and make friends. That same month, Stradey Sospans Girls Rugby Hub was established, originally hosted at Llanelli Wanderers RFC.
​
Starting small, with just over twenty girls in our first summer, the hub quickly grew thanks to the commitment of our coaches, volunteers, and families. Appearances on S4C’s Heno, BBC’s Scrum V, and articles in the Llanelli Star helped raise awareness and inspire more players to join.
​
Even during the challenges of Covid-19, our numbers and enthusiasm remained strong, with girls returning in greater numbers across six age groups. Over the years, we’ve celebrated many milestones — from our first silverware in 2021, to players gaining selection for Scarlets and local schools teams.
​
Wherever we’ve called home — from Wanderers, to Furnace RFC, and now Trimsaran RFC — the Sospans spirit has remained the same: community, commitment, and a love of rugby.
​
Our story is still being written, and we’d love you to be part of it.
Our Mission
At Stradey Sospans, our mission is to make rugby a game for every girl — no matter her age, background, ability, shape, or size.
We believe rugby is more than just a sport: it’s about belonging, building confidence, and discovering strength in yourself and your teammates. Our focus is on creating a safe and inclusive space where every girl has the chance to learn, grow, and most importantly, enjoy the game.
​
With the rise of women’s rugby on the world stage and the #ForGirls movement inspiring the next generation, we are proud to play our part locally — giving girls in Llanelli and beyond the opportunity to step onto the pitch, try something new, and become part of a team that feels like family.
Our Values
-
Fun – Enjoying rugby at every level.
-
Friendship – Building bonds that last on and off the pitch.
-
Respect – For teammates, coaches, opponents, and the game.
-
Teamwork – Supporting each other to grow and succeed.
-
Commitment – Giving our best in everything we do.
-
Inclusion – Welcoming girls of all ages, backgrounds, and abilities.
Our Aims
-
To develop rugby skills and knowledge in a supportive, structured way.
-
To provide clear pathways for players at all age groups.
-
To ensure rugby is accessible to all, regardless of background or experience.
-
To celebrate diversity and show that rugby is for everyone.
-
To create a positive environment for players, families, and volunteers.
-
To celebrate achievements, both on and off the field.
Amdanom Ni
Sefydlwyd Stradey Sospans Girls Rugby Hub yn 2016 fel rhan o Undeb Rygbi Cymru i dyfu’r gêm i ferched ar draws Cymru. O’n sesiynau hyfforddi cyntaf gyda dim ond ugain o ferched, rydym bellach wedi tyfu’n ganolbwynt bywiog sy’n croesawu chwaraewyr o bob oedran a gallu.
​
O Medi 1af 2025, rydym yn falch iawn o alw Clwb Rygbi Trimsaran yn gartref i ni – lle rydyn ni’n parhau i adeiladu cymuned rygbi gadarnhaol a chefnogol.
​
Ein Stori
Ym mis Ebrill 2016, lansiodd Undeb Rygbi Cymru fenter i annog merched i chwarae rygbi – i gael hwyl, dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau. Yr un mis, sefydlwyd Stradey Sospans Girls Rugby Hub, gyda’n cartref cyntaf yn Llanelli Wanderers RFC.
Dechreuon ni’n fach, gyda thua ugain o ferched yn y flwyddyn gyntaf, ond tyfodd y clwb yn gyflym drwy ymroddiad ein hyfforddwyr, ein gwirfoddolwyr a’n teuluoedd. Cafodd y Sospans sylw ar raglenni fel Heno ar S4C, Scrum V ar y BBC, ac yn y Llanelli Star – gan helpu i godi proffil a denu mwy o chwaraewyr newydd.
​
Hyd yn oed drwy heriau Covid-19, roedd ein niferoedd a’n brwdfrydedd yn parhau’n gryf, gyda mwy o ferched yn dychwelyd ar draws chwe grŵp oedran. Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi dathlu sawl carreg filltir – o’n tlws cyntaf yn 2021, i chwaraewyr yn cael eu dewis i’r Scarlets ac i dimau ysgol lleol.
​
Waeth ble rydyn ni wedi galw’n gartref – Llanelli Wanderers, Furnace RFC, ac erbyn hyn Trimsaran RFC – mae ysbryd y Sospans wastad yr un peth: cymuned, ymroddiad, a chariad at rygbi.
​
Mae ein stori dal i gael ei hysgrifennu – a byddem wrth ein bodd i ti fod yn rhan ohoni.
​​​
​
Ein Cenhadaeth
Yn Stradey Sospans, ein cenhadaeth ni yw gwneud rygbi’n gêm i bob merch — waeth beth yw ei hoedran, cefndir, gallu, siâp neu faint.
Rydyn ni’n credu bod rygbi’n fwy na dim ond chwaraeon: mae’n ymwneud â bod yn rhan o rywbeth, magu hyder, a darganfod cryfder ynoch chi’ch hun a’ch cyd-chwaraewyr. Ein prif ffocws yw creu lle diogel a chynhwysol lle mae pob merch yn cael y cyfle i ddysgu, tyfu ac, yn bwysicaf, mwynhau’r gêm.
​
Gyda thwf rygbi merched ar lwyfan y byd ac ysbrydoliaeth y mudiad #ForGirls yn cyrraedd y genhedlaeth nesaf, rydyn ni’n falch o chwarae ein rhan yn lleol — gan roi cyfle i ferched yn Llanelli a thu hwnt gamu ar y cae, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, a bod yn rhan o dîm sy’n teimlo fel teulu.
​
Ein Gwerthoedd
-
Hwyl – Mwynhau rygbi ar bob lefel.
-
Cyfeillgarwch – Adeiladu perthnasau sy’n para ar ac oddi ar y cae.
-
Parch – At gyd-chwaraewyr, hyfforddwyr, gwrthwynebwyr a’r gêm ei hun.
-
Tîmwaith – Cefnogi’n gilydd i dyfu a llwyddo.
-
Ymroddiad – Rhoi’r gorau oll yn bopeth rydyn ni’n ei wneud.
-
Cynhwysiant – Croesawu merched o bob oed, cefndir a gallu.
​
Ein Hamcanion
-
Datblygu sgiliau a gwybodaeth rygbi mewn ffordd gefnogol a strwythuredig.
-
Darparu llwybrau clir i chwaraewyr ym mhob grŵp oedran.
-
Sicrhau bod rygbi ar gael i bawb, waeth beth yw cefndir na phrofiad.
-
Dathlu amrywiaeth a dangos bod rygbi ar gyfer pawb.
-
Creu amgylchedd cadarnhaol i chwaraewyr, teuluoedd a gwirfoddolwyr.
-
Dathlu llwyddiannau, ar ac oddi ar y cae.
​

